Marcsiaeth ddadansoddol

Ysgol feddwl Farcsaidd yw Marcsiaeth ddadansoddol sydd yn defnyddio technegau'r athronwyr dadansoddol o archwilio cysyniadau yn ogystal â dulliau economeg neo-glasurol i astudio a datblygu'r ddamcaniaeth Farcsaidd.

Trwy gydol y rhan fwyaf o'r 20g, bu'r mwyafrif o athronwyr dadansoddol yn gwrthod materoliaeth hanesyddol, un o brif elfennau y ddamcaniaeth Farcsaidd, fel yr amlinellir yn rhagair Karl Marx i'w waith Zur Kritik der politischen Ökonomie (1859). Dadleuasant bod Marx yn bwrw dwy ragdybiaeth sydd i bob golwg yn anghyson â'i gilydd: yn gyntaf, dylid esbonio strwythur gymdeithasol ac economaidd fel swyddogaeth o ddatblygiad gwyddonol a thechnolegol y gymdeithas, ac yn ail bod yr union un strwythur yn achosi (ac felly yn esbonio) y datblygiadau gwyddonol a thechnolegol hynny. Bu athronwyr dadansoddol hefyd yn nodi cyfyngiadau ar gysyniadaeth Marx ynghylch y berthynas rhwng y strwythur gymdeithasol a'r uwch-strwythur wleidyddol a chyfreithiol.[1]

Arloeswyd Marcsiaeth ddadansoddol yn niwedd y 1970au yn sgil ymdrechion G. A. Cohen i ddatrys y problemau a adnabuwyd gan yr athronwyr dadansoddol a hynny trwy ddulliau swyddogaetholdeb. Yn ogystal â methodoleg Cohen, mae eraill wedi cymhwyso theori dewis rhesymegol ac unigolyddiaeth fethodolegol at athroniaeth Farcsaidd. Mae nifer o ysgolheigion a Marcswyr wedi rhoi'r llach ar seiliau damcaniaethol Marcsiaeth ddadansoddol a'i chyhuddo o wyro oddi wrth syniadaeth hanfodol a dulliau Marx.

  1. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Britannica

Developed by StudentB